SL(6)108 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2021
Cefndir a Diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan nifer achosion a lledaeniad COVID-19.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (“y prif Reoliadau”), gan gael effaith o ddechrau 11 Rhagfyr 2021, er mwyn:
· Egluro nad yw awditoriwm theatr, sinema neu neuadd gyngerdd nac ardal wylio arena neu stadiwm o dan do i’w trin fel mangreoedd lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y’i darperir fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre. Pwrpas y newid hwn yn dileu amwysedd posibl yn y prif Reoliadau;
· Gwneud gorchuddion wyneb yn ofyniad cyfreithiol yn ystod gwersi gyrru proffesiynol a phrofion ymarferol yng Nghymru oni bai bod unigolyn wedi’i esemptio.
Mae'r prif Reoliadau yn cael eu diwygio ymhellach gan y Rheoliadau hyn, o ddechrau 15 Rhagfyr 2021, i eithrio adferiad blaenorol (neu imiwnedd naturiol) fel ffordd o ddangos statws COVID-19 at ddibenion y Pàs COVID.
Y weithdrefn
Gwneud cadarnhaol.
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Rhaid i'r Senedd gymeradwyo'r Rheoliadau o fewn 28 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd wedi’i diddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gwnaed er mwyn iddynt barhau i gael effaith.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau ar gyfer adrodd o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Mae’r pedwar pwynt canlynol wedi’u nodi i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Nodwn gyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol. Yn benodol, nodwn y canlynol yn y Memorandwm Esboniadol:
“Er bod y prif Reoliadau, fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn, yn cyffwrdd â hawliau unigol o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, mae’r Llywodraeth o’r farn bod modd eu cyfiawnhau er mwyn atal lledaeniad clefydau heintus a/neu fod hawl i wneud yr ymyriad ar y sail ei fod yn ceisio cyflawni nod dilys, sef diogelu iechyd y cyhoedd, a’u bod yn gymesur.
Mae Erthygl 5 (yr hawl i ryddid), Erthygl 8 (yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol), Erthygl 9 (rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd), Erthygl 11 (rhyddid i ymgynnull a chymdeithasu) ac Erthygl 1 o’r Protocol Cyntaf (diogelu eiddo) yn cael eu cyffwrdd gan y prif Reoliadau.
Mae pob un o’r rhain yn hawliau amodol, sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru ymyrryd ag arfer yr hawliau os oes angen gwneud hynny mewn cymdeithas ddemocrataidd er budd diogelwch y cyhoedd neu er mwyn diogelu iechyd. Rhaid cyfiawnhau’r holl gyfyngiadau a gofynion o’r fath ar y sail mai eu bwriad yw cyflawni nod cyfreithlon, sef diogelu iechyd y cyhoedd, a’u bod yn gymesur. Hefyd, mae angen cydbwyso unrhyw ymyrraeth â’r hawliau hyn â rhwymedigaethau cadarnhaol y wladwriaeth o dan Erthygl 2 (yr hawl i fywyd). Mae addasu’r cyfyngiadau a’r gofynion o dan y prif Reoliadau drwy’r Rheoliadau hyn yn ymateb cymesur i ledaeniad y coronafeirws. Mae'n cydbwyso'r angen i gynnal ymateb priodol i'r bygythiad a berir gan y coronafeirws yn erbyn hawliau unigolion a busnesau, mewn modd sy'n parhau'n gymesur â'r angen i leihau cyfradd trosglwyddo'r coronafeirws, gan ystyried y dystiolaeth wyddonol.”
2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Nodwn na fu unrhyw ymgynghori ffurfiol ar y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraffau a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:
“O ystyried y bygythiad parhaus sy’n deillio o’r coronafeirws a’r angen am ymateb iechyd cyhoeddus prydlon, nid oes ymgynghoriad cyhoeddus wedi’i gynnal mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Serch hynny, ymgysylltwyd â rhanddeiliaid amrywiol gan gynnwys Is-adran Cydraddoldebau Llywodraeth Cymru.”
3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Nodwn nad oes asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer y Rheoliadau hyn a gofynnwn i Lywodraeth Cymru esbonio pa drefniadau y mae wedi eu gwneud, mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn, i gyhoeddi adroddiadau o’r asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb yn unol â rheoliad 8(1)(d) o Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.
Er y nodir bod y Memorandwm Esboniadol yn datgan y “cyhoeddwyd asesiadau effaith cryno yn flaenorol sy’n cynnwys effeithiau sy’n ymwneud â gorchuddion wyneb”, ni chyfeirir at effeithiau cydraddoldeb sy’n ymwneud â newidiadau i’r rheoliadau sy’n eithrio adferiad blaenorol (h.y. imiwnedd naturiol) fel ffordd o ddangos statws COVID-19 at ddibenion y Pàs COVID.
4. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Mewn perthynas ag eithrio adferiad blaenorol (h.y. imiwnedd naturiol) fel ffordd o ddangos statws COVID-19 at ddibenion y Pàs COVID, nodir bod y Memorandwm Esboniadol yn nodi bod y newid “yn cael ei gyfiawnhau ar sail iechyd y cyhoedd”, yn ogystal â “c[h]ryfhau’r gofynion fel y cynigiwyd yn flaenorol gan y Grŵp Cyngor Technegol ac fe'i cefnogir gan y Prif Swyddog Meddygol.”
Fodd bynnag, nid yw’r Memorandwm Esboniadol yn cynnwys unrhyw gyfeiriadau penodol at y dystiolaeth y mae Llywodraeth Cymru’n dibynnu arni wrth wneud darpariaeth o dan y Rheoliadau hyn.
Byddem yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru nodi’r dystiolaeth sy’n dangos bod eithrio adferiad blaenorol (h.y. imiwnedd naturiol) fel ffordd o ddangos statws COVID-19 at ddibenion y Pàs COVID “yn cael ei gyfiawnhau ar sail iechyd y cyhoedd”.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb oddi wrth Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phwyntiau 3 a 4 uchod yn unig.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
20 Rhagfyr 2021